Deiseb a gwblhawyd Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol

Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi manylion yr holl wariant dros £500 er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r manylion gael eu cyhoeddi ar-lein ac mewn fformat sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gyda’r rhyddid i ailddefnyddio’r data.

Mae nifer o gynghorau yn Lloegr bellach yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar eu gwefannau. Mae’r wybodaeth yn barod ar gael yng nghronfeydd data’r cynghorau, felly’r cyfan sydd angen ei wneud yw casglu’r wybodaeth mewn man canolog ac mewn ffordd hygyrch sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Rheoli Data. Byddai’r gost gychwynnol yn cael ei had-dalu gan yr arbedion a ddaw yn sgîl gostyngiad yn nifer y ceisiadau rhyddid gwybodaeth y mae awdurdodau lleol yn eu cael mewn perthynas â manylion gwariant.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

77 llofnod

Dangos ar fap

5,000