Deiseb a gwblhawyd Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

​Rydym yn galw ar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru: "Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo."

Credwn y byddai gwahardd gwerthu plastig untro, sy’n niweidio ein hamgylchedd naturiol, yn gam sylweddol o ran cyflawni’r nod hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol tecach a diogelach i ddinasyddion Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

125 llofnod

Dangos ar fap

5,000