Deiseb a gwblhawyd Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.
Mae’r Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod wedi cael llif o alwadau am gymorth gan aelodau pryderus o’r cyhoedd, perchnogion ceffylau a’r heddlu ynghylch ceffylau sydd wedi’u gadael, eu hesgeuluso neu sydd wedi’u hanafu. Mae nifer ohonynt wedi eu hanafu wrth iddynt grwydro ar ein ffyrdd sy’n beryglus iawn i fodurwyr.
Does dim microsglodyn gan yr un o’r ceffylau hyn – sydd wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ar ebolion ac ebolesau sydd wedi’u geni ar ôl mis Gorffennaf 2009 – sy’n golygu nad yw hi’n bosibl olrhain perchnogion y ceffylau. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod microsglodion yn cael eu defnyddio a bod pasbortau gan geffylau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddfwriaeth 2009.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon