Deiseb a gwblhawyd Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i annog pob archfarchnad a manwerthwr i osod drysau ar eu holl oergelloedd a rhewgelloedd, i leihau ein hôl troed carbon cenedlaethol, i leihau'r defnydd o drydan ac i baratoi ar gyfer Cymru fwy gwyrdd.

Mae Supervalu, manwerthwr o Iwerddon, yn amcangyfrif y byddai oergell gyffredin 2.5 metr o gyfaint, ag iddi ddrysau, yn arbed 10,000kWh y flwyddyn yn arferol, o'i gymharu ag oergelloedd nad oes ganddynt ddrysau [1].

Mae hyn yn cyfateb i 7 tunnell o nwy tŷ gwydr carbon deuocsid, a fyddai'n ddigon i bweru o leiaf ddau gartref â thrydan am flwyddyn! Byddai'r pŵer a arbedir o un oergell sydd â drysau yn ddigon i bweru dau gartref! [2]

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2016 [3] (Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd) yn rhoi "pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau statudol o ran lleihau allyriadau, gan gynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050, ac i gyflwyno cyllidebau carbon er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hynny.  Mae hyn yn hanfodol yng nghyd-destun ein hymrwymiadau Prydeinig ac Ewropeaidd ac yn gosod llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i fusnesau a buddsoddwyr."

Mae hwn yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru weithio tuag at y nod hwn a chyfrannu at y gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050. Gallai'r Ddeddf hon arwain at ganlyniadau enfawr yn genedlaethol ac yn fyd-eang! Beth am i Gymru fod yn wlad flaenllaw ar y llwyfan rhyngwladol, gydag amgylchedd "iach a chydnerth" [3] drwy gau'r drws yn glep ar wastraffu ynni, a hynny ar gyfer y genhedlaeth hon a'r genhedlaeth nesaf!

Rhagor o fanylion

Dywed yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol mewn adroddiad 'iasol' [4], pe bai manwerthwyr yn rhoi drysau ar oergelloedd, byddent yn lleihau eu defnydd o ynni gan gymaint â 33 y cant, a byddai bil ynni'r DU 1 y cant yn llai pe bai'r pum brif archfarchnad yn gosod drysau ar eu hoergelloedd.

Mae clymblaid o gyrff anllywodraethol Ewropeaidd wedi cyfeirio at adroddiad, y gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd amdano, sy'n datgan y byddai hyd at 58TWh o bŵer yn cael ei arbed erbyn 2030 ledled Ewrop pe bai archfarchnadoedd a manwerthwyr yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd a'u rhewgelloedd. Mae hyn yn cyfateb i 25 safle pŵer glo o faint canolig. Fe wnaethant ddweud hefyd:" the step to install doors on supermarket fridges and freezers is a no-brainer. Retailers will benefit from lower energy bills, a more climate conscious image, and ultimately, happier consumers. It's a win-win for everyone, especially for the environment. Because of climate change, we simply can't afford to be so careless with energy any longer." [5]

[1] Tîm Gofal Cwsmer, Adran Cyfathrebu, SuperValu. Dydd Iau 7 Medi 2017. Mae SuperValu, y manwerthwr o Iwerddon, yn dyfynnu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol gan wneuthurwr ei oergelloedd.

[2] Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan Ofgem. Gwerthoedd Defnydd Domestig Arferol. Ar gael o: https://www.ofgem.gov.uk/gas/retail-market/monitoring-data-and-statistics/typical-domestic-consumption-values [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]

[3] Llywodraeth Cymru. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 http://gov.wales/topics/environmentcountryside/consmanagement/natural-resources-management/environment-act/?skip=1&lang=cy  [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]

[4] Yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol, Chilling Facts VI: Closing the door on HFCs. 2014; tudalen 14. Ar gael o: https://eia-international.org/report/the-chilling-facts-vi-closing-the-door-on-hfcs/ [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019].

[5] Coolproducts, Pam nad oes gan oergelloedd archfarchnadoedd ddrysau? Ar gael o: https://www.coolproducts.eu/news/why-dont-supermarket-fridges-have-doors [Mynediad - dydd Sadwrn 12 Ionawr 2019]

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

91 llofnod

Dangos ar fap

5,000