Deiseb a gwblhawyd Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

​Yn ddiweddar, mae wedi dod i'n sylw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi trwyddedau i ganiatáu lladd rhywogaethau sy'n ymddangos ar restrau Coch ac Amber yr RSPB yng Nghymru, a hynny ar sail braidd yn annilys o bryd i'w gilydd, fel "diogelu bwyd gwartheg" a "diogelu'r awyr". Mae dulliau eraill yn bodoli i wasgaru adar heb fod angen eu lladd.

Mae pob rhywogaeth sydd wedi'u rhestru'n Goch mewn perygl difrifol o ddifodiant yng Nghymru, felly mae angen gwella lefel yr amddiffyniad er mwyn atal rhagor o ddirywiad i'n bioamrywiaeth naturiol.

Mae gan reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru safbwynt anthropocentrig o ran yr amgylchedd naturiol, ac felly nid ydynt yn addas i'r diben pan fo mater yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

Rydym ni, drwy lofnodi isod, yn dadlau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.

Rydym yn mynnu y dylai hawl Cyfoeth Naturiol Cymru (neu unrhyw gorff arall) i roi trwyddedau i ganiatáu lladd unrhyw rywogaethau Coch neu Amber rhestredig gael ei dynnu'n ôl ar unwaith, a bod angen i'r rheolwyr ystyried safbwynt llai anthropocentrig mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

173 llofnod

Dangos ar fap

5,000