Deiseb a gwblhawyd Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

  1. Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.
    2.  Sicrhau bod yr holl bolisïau presennol ac yn y dyfodol yn gyson â'r ymgyrch i osgoi newid pellach yn yr hinsawdd a chwymp ecolegol.
    1. Deddfu mesurau polisi cyfreithiol i leihau allyriadau carbon i net sero erbyn 2025 a lleihau lefelau defnydd.
    2. Gweithredu Cynulliad Dinasyddion Cymru i oruchwylio'r newidiadau.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar unwaith, ac ymrwymo i weithredu'r camau sy'n weddill erbyn mis Mehefin 2019.

Rhaid i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon gael eu defnyddio fel catalydd i sbarduno datgarboneiddio cyflym yn y sector preifat drwy gaffael, trethi a chymhorthdal. Ledled y DU, mae ugain cyngor dinas, tref a sir eisoes wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, gan gynnwys Powys a Machynlleth. Rhaid i ddinasyddion fod yn rhan er mwyn sicrhau bod y newid angenrheidiol yn cael ei wneud ar draws gymdeithas, fel y dangoswyd ym model Sortition o ddemocratiaeth gyfranogol. Ymhlith y mentrau y gellir creu partneriaeth â nhw mae: The Climate Mobilization; Beyond Zero Emissions; Rapid Transition Alliance; Green New Deal Group; One Million Climate Jobs; The Breakthrough Institute; a Zero Carbon Britain.

Rhagor o fanylion

​Mae Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd wedi rhybuddio bod gennym 12 mlynedd i wneud y newidiadau angenrheidiol i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang o 1.5ºC. Bydd methiant i weithredu yn golygu cynnydd sylweddol a chyflymach yn lefelau'r môr a llifogydd, newidiadau eithafol a sydyn i batrymau tywydd, methiant cnwd, a rhywogaethau o blanhigion, pryfed ac anifeiliaid yn darfod. Yn anochel, bydd hyn yn arwain at amharu economaidd byd-eang ac argyfwng dyngarol. Bydd hefyd yn effeithio'n andwyol ar les pobl Cymru a biliynau o bobl eraill. Y llynedd, dywedodd Syr David Attenborough:

"Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu argyfwng a wnaed gan ddyn ar raddfa fyd-eang. Ein bygythiad mwyaf mewn miloedd o flynyddoedd. Newid hinsawdd. Os na fyddwn ni'n gweithredu, mae cwymp gwareiddiad a thranc llawer o'n byd naturiol ar y gorwel. Mae pobl y byd wedi siarad. Mae'r neges yn glir. Mae amser yn rhedeg allan."

Mae polisi Datblygu Un Blaned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos y gall Cymru arwain y ffordd mewn polisi blaengar. Ond nid ydynt yn ysgogi'r llywodraeth i weithredu yn unol â difrifoldeb y sefyllfa. Mae'r consensws gwyddonol yn dangos y raddfa heb ei debyg o weithredu ar y cyd sydd ei angen er mwyn osgoi'r canlyniadau gwaethaf yn y dyfodol agos. Ni allwn ofyn am ddim llai.

Mae pobl ledled y byd yn cael eu hysbrydoli gan fudiad Extinction Rebellion i annog llywodraethau ar bob lefel i wynebu'r her yn sgil newid hinsawdd a chwymp ecolegol. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein barnu ar ein dewrder i wneud y newid yr ydym yn gwybod sydd ei angen ar frys. Gweithredwch nawr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,148 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 19 Mehefin 2019

Gwyliwch y ddeiseb ‘Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mehefin 2019.