Deiseb a gwblhawyd Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru

​Mae Cyngor Conwy yn ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yn y flwyddyn i ddod. Mae cynghorau eraill yng Nghymru hefyd yn cyflwyno codiadau treth gyngor y tu hwnt i gyfradd chwyddiant. 

Galwaf ar i'r Cynulliad gapio codiadau yn y dreth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd. Wrth i gyfraddau dlodi plant a dyledion cartrefi gynyddu, bydd y codiadau aruthrol yn y dreth gyngor yn cael effaith andwyol ar gartrefi.

Rhagor o fanylion

​Mae Cyngor Conwy wedi codi'r dreth gyngor 5 y cant o'r naill flwyddyn i'r llall, ond eleni mae'n ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant.

Mae gormod o gartrefi incwm isel eisoes mewn trafferthion; byddai codiad gwarthus o'r fath yn ergyd drom.

Rydym yn talu MWY ac yn cael LLAI a LLAI o ran gwasanaethau.

Yr un yw'r stori ledled Cymru.

Byddai capio codiadau treth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd yng Nghymru yn fodd i deuluoedd dan bwysau gael eu gwynt atynt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

55 llofnod

Dangos ar fap

5,000