Deiseb a gwblhawyd Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod

​Yng Nghymru, mae llawer o fusnesau, ysbytai a pharciau/safleoedd a gynhelir gan gynghorau lle nad oes cyfleusterau newid cewynnau ar gael i ddynion a menywod eu defnyddio. Fel arfer, dim ond mewn toiledau i fenywod y mae'r cyfleusterau ar gael.

Oherwydd hyn, mae dynion yn aml yn gorfod mynd i chwilio am gyfleusterau y cânt eu defnyddio neu, ar lawer o achlysuron, ddefnyddio mesurau dros dro fel newid cewyn ar y llawr, ar ben caead bin ag olwynion mewn toiledau, cydbwyso'r plentyn ar eu côl ac ar fainc yn yr awyr agored.

Gofynnwn i'r Cynulliad sicrhau bod pob gwaith adnewyddu yn y dyfodol ac adeilad newydd mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd â man diogel a glân i newid cewynnau a galluogi plant bach i fynd i'r toiled yn ddiogel ac, fel mesur tymor byr, drefnu bod cyfleuster newid cewynnau ar ffurf bwrdd neu uned gollwng-i-lawr ar gael.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

125 llofnod

Dangos ar fap

5,000