Deiseb a gwblhawyd Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod natur newidiol y sector manwerthu yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac ystyried trafod ffyrdd o gyflwyno ardrethi busnes tecach fel rhan o system trethi Gymreig fwy blaengar i fusnesau yng nghanol ein trefi, mewn parciau manwerthu ac ar-lein i gynrychioli'r newidiadau hyn yn llawn.

Mae trefi a dinasoedd llewyrchus a chynaliadwy yn bwysig i bawb sy'n byw ac yn gweithio ynddynt ac mae Llywodraeth yr Alban wedi cydnabod hyn drwy ystyried codi trethi i barciau manwerthu ac mae Plaid Lafur y DU am brisiadau ardrethi busnes blynyddol, gan gydnabod yn rhannol yr angen i ystyried rhannu'r baich treth yn fwy cyfartal.

Dyma gyfle i Lywodraeth Cymru arwain ardrethi a threthi busnes tecach ac rydym ni, yn Ardal Gwella Busnes (BID) Eich Pontypridd, yn eich annog i achub ar y cyfle i ddangos i'n busnes lleol eich bod yn deall ei anghenion nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

80 llofnod

Dangos ar fap

5,000