Deiseb a gwblhawyd Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ysgolion ac, os na all wneud hynny, i gydnabod effaith toriadau ar ddarpariaeth addysgol, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.
Wrth i gyllidebau cynghorau barhau i gael eu cwtogi, ac wrth i'r toriadau hyn gael eu trosglwyddo i ysgolion, gofynnir i gyrff llywodraethu wneud penderfyniadau amhosibl ynghylch pa wasanaethau addysgol hanfodol y dylai ein hysgolion gael gwared arnynt.
Bydd hyn yn golygu llai o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, llai o gefnogaeth i ddysgwyr sy'n agored i niwed, llai o ddewis o ran y cwricwlwm, adnoddau dysgu annigonol ac adeiladau adfeiliedig.
Nid dyma'r sylfeini y gall ysgolion adeiladu arnynt i greu a gweithredu cwricwlwm addysgol o'r radd flaenaf.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl
Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn ddiweddar i gyllid ysgolion gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a phenderfyniad y Gweinidog Addysg i gomisiynu adolygiad i'r pwnc hwn.
Cynhaliwyd dadl lawn ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 23 Hydref 2019: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/5854#A53927
Busnes arall y Senedd
Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Gyllid Ysgolion a chyhoeddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2019. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=23052
Cynhaliwyd dadl lawn ar 23 Hydref 2019: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/5854#A53927