Deiseb a gwblhawyd Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru.

Y nod yw creu a hybu wythnos o ddathlu a chofnodi'n hanesyddol-gywir hanes Cymru sy'n esgor ar ddysgu a chyfleoedd addysgol. Byddai'r hyn a addysgir yn fwy onest na hanes 'lân' Prydain a gafodd cynifer ohonom yn yr ysgol, ac ni fyddai'n amcanu i roi unrhyw ogwydd i'r wybodaeth gan ffafrio unrhyw barti.

I herio'r ffantasiau hanesyddol-anghywir sydd i'w cael ynghylch stereoteip Cymru, a sut y daeth i fod yn hierarchiaeth Prydain yn y cyfnod sydd ohoni.

Drwy ddeall ein hanes go iawn, hybu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, lle Cymru yn y Brydain fodern, a thrwy gyflwyno trafodaethau ynghylch sut y dylem geisio sicrhau bod hynny'n cael ei ddeall nid yn unig o fewn Cymru, ond hefyd o fewn y gwledydd eraill ar ynysoedd Prydain ac yng ngweddill y byd.

Rhagor o fanylion

Mae nifer o bobl yng Nghymru (gan gynnwys fi fy hun) yn cael ein magu â thybiaethau anghywir ynghylch sut y daeth Cymru i fod, a'r 'hiliau' sydd i'w cael ar ynysoedd Prydain.

Bydd dealltwriaeth ddyfnach o bwy ydym a sut y cyrhaeddom lle yr ydym heddiw yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ystyried lle yr ydym am fod yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

86 llofnod

Dangos ar fap

5,000