Deiseb a gwblhawyd Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun i helpu perchnogion cyfrifol anifeiliaid anwes i gael hawl i ymgynghoriadau milfeddygol wyneb yn wyneb a gofal ar gyfer eu hanifeiliaid.

O eleni ymlaen bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau trethu cyfyngedig eu hunain am y tro cyntaf. Ers blynyddoedd lawer mae pobl gyffredin wedi cael trafferthion i dalu costau byw sylfaenol, ac mae hyn yn parhau. Nid oes dim amheuaeth ynglŷn â'r manteision i iechyd meddwl a llesiant pobl o gael anifail anwes. Mae llawer o'r anifeiliaid yn dod yn rhan o'r teulu. I bobl sy'n byw ar eu pennau'u hunain neu'n anghysbell, gall yr anifail fod yr unig gwmni sydd ganddynt.

Mae gwyddoniaeth filfeddygol, fel y rhan fwyaf o broffesiynau, wedi esblygu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Llawfeddygon Milfeddygol, nyrsys milfeddygol a'u staff cymorth sy'n gweithio ar y "rheng flaen" yng Nghymru yn gwneud hynny o dan amgylchiadau heriol iawn yn aml. Mae'n dda gweld bod eu corff llywodraethol, sef Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) wedi cydnabod hyn yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi cymryd camau i geisio cefnogi llesiant iechyd meddwl o fewn y proffesiwn. Ond yn wahanol i iechyd dynol yng Nghymru, nid oes gwasanaeth am ddim ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer anifeiliaid pan fyddant ei angen, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

O dan adran 3.16 o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Cymru a Lloegr) 2006, cyfrifoldeb y perchnogion yw darparu ar gyfer pum angen llesiant sylfaenol anifeiliaid, a'r pumed o'r rhain yw ei "amddiffyn rhag dioddef poen, anaf a chlefyd".

Rhagor o fanylion

Mae'r maes yswiriant ar gyfer anifeiliaid anwes wedi ffynnu yn y blynyddoedd diwethaf.  Ond gall llawer o berchnogion cyfrifol barhau i gael trafferth i gael gwarchodaeth yswiriant ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Mae hyn yn sgîl cyflyrau sydd eisoes yn bodoli, cŵn sydd wedi'u heithrio oherwydd deddfwriaeth benodol ar fridio, neu lawer o anifeiliaid anwes sydd, yn syml, angen rhagor o driniaeth na'r hyn y mae polisi yswiriant eu perchnogion yn ei ganiatáu.

Mae rhai sefydliadau'r trydydd sector, fel yr elusen filfeddygol PDSA, wedi ceisio llenwi'r bwlch ers sawl blwyddyn. Maent wedi gwneud gwaith clodwiw, ond yn y blynyddoedd diwethaf maen nhw, hyd yn oed, wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i gwtogi ar eu darpariaeth. Nid oes gan rai ardaloedd yng Nghymru ddim ysbytai anifeiliaid na chlinigau milfeddygol o fath yn y byd a ddarperir gan elusennau.

Mae tuedd bryderus hefyd i berchnogion droi at fforymau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael cyngor ar faterion clinigol, yn hytrach na mynd â'u hanifeiliaid i bractis milfeddygol. Rwy'n adnabod pobl sy'n ateb llinellau ffôn cymorth ar ran elusennau anifeiliaid. Dywedant wrthyf fod y duedd hon yn cael ei ailadrodd.

Gyda'm cefndir i ym maes achub anifeiliaid, rwyf wedi bod yn argyhoeddedig ers blynyddoedd lawer fod nifer cynyddol o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael neu eu rhoi mewn canolfannau achub, yn rhannol, oherwydd nad yw pobl yn gallu ariannu gofal milfeddygol ar eu cyfer. Mae'r canolfannau achub yng Nghymru yn orlawn, ac mae'r holl ystadegau sydd ar gael yn dangos bod achosion o'r fath, ac unrhyw erlyniadau sy'n deillio ohonynt, yn codi.

Yn gyntaf, byddai cynllun o'r fath yn helpu anifeiliaid anwes a'u perchnogion. Byddai hefyd yn helpu'r rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y canolfannau achub anifeiliaid, ac yn sicr yn helpu'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru, sydd hefyd ar adegau yn gweithio mewn amgylchiadau heriol tu hwnt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

95 llofnod

Dangos ar fap

5,000