Deiseb a gwblhawyd Trwsio ein system gynllunio

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i drwsio ein system gynllunio; mae angen i ddatblygiadau newydd fod yn gynaliadwy.

Mae paragraff 4.2.15 o ddogfen Polisi Cynllunio Cymru yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. I allu ystyried bod tir ar gael yng ngwir ystyr y term, mae'n rhaid i'r safle dan sylw fod yn safle sydd wedi'i gynnwys mewn Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

Mae'r cyflenwad pum mlynedd o dai yn rhoi gormod o bwysau ar awdurdodau lleol, sy'n golygu bod datblygiadau anaddas yn cael eu hadeiladu. Mae'r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn ddiffygiol: nid yw'n ystyried tai gwag na nifer yr ail gartrefi yn yr ardal. O ganlyniad i'r prinder tir, mae cynghorau'n teimlo bod angen rhoi caniatâd cynllunio hyd yn oed os ydynt yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r isadeiledd. Os yw cynghorau'n gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn gwyrdroi eu penderfyniadau yn ystod y broses apêl.

Mae datblygwyr yn ymwybodol o'r bylchau yn y system, ac maent yn gallu manteisio ar fregusrwydd cymunedau drwy ymgymryd â datblygiadau hapfasnachol mawr y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol. Gan fod y datblygiadau hyn y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol, nid yw cynaliadwyedd yr ardal o ran llesiant yr economi, iechyd, trafnidiaeth a'r amgylchedd yn destun gwaith craffu manwl. Hyd yn oed os yw trigolion yn tynnu sylw at astudiaethau/ystadegau lleol a chenedlaethol yn ymwneud â'r ardal dan sylw, nid yw eu lleisiau'n cael eu clywed mewn apeliadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddiffinio'r hyn a olygir gan dystiolaeth 'gadarn'.

Cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn atal datblygiadau anghynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau dyfodol rhesymol. Mae cymunedau'n teimlo nad yw polisi nac arfer yn adlewyrchu hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

251 llofnod

Dangos ar fap

5,000