Deiseb a gwblhawyd Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal unig ward dementia Merthyr Tudful rhag cau. Mae Ward 35 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn darparu seibiant hanfodol i deuluoedd ac anwyliaid preswylwyr lleol sy'n dioddef clefyd Alzheimer a ffurfiau eraill ar ddementia. Heb yr ased hanfodol hwn, mae bygythiad gwirioneddol o niwed y gellir ei atal i'r bobl fwyaf agored i niwed. Erbyn hyn, ni all llawer o bobl ofalu am aelodau'r teulu sydd â'r cyflwr hwn oherwydd bod angen gofal arnynt hwythau neu oherwydd pwysau gwaith ac ymrwymiadau gofal plant. Ystyriwch y goblygiadau negyddol ehangach o gau'r ward hon a'r boen y byddai'n ei hachosi i lawer o deuluoedd, y byddai eu ward dementia agosaf filltiroedd i ffwrdd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

281 llofnod

Dangos ar fap

5,000