Deiseb a gwblhawyd Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru
Mae ffermio anifeiliaid am eu ffwr wedi cael eu gwahardd yn y DU ers dros 16 mlynedd oherwydd y creulondeb sy'n rhan ohono. Fodd bynnag, mae cynhyrchion ffwr yn cael eu mewnforio yn gyfreithlon o wledydd lle nad oes fawr ddim o ran cyfreithiau lles anifeiliaid.
Mae llawer o'r anifeiliaid yn cael eu dal yn y gwyllt mewn trapiau coes â safnau dur, ac mae achosion lle mae'r anifeiliaid hyn wedi cnoi trwy eu coesau mewn ymgais gorffwyll i ddianc. Hefyd, mae anifeiliaid yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr, fel arfer mewn amgylchiadau cyfyng iawn sy'n arwain at drawma meddyliol difrifol, briwiau a chlefydau.
Poen a dioddefaint dirfawr yw tynged yr anifeiliaid hyn, ni waeth a ydynt yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr neu eu dal yn y gwyllt. Mae'r diwydiant ffwr yn gwbl anfoesol, yn gwbl ddiangen ac yn greulon.
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon