Deiseb a gwblhawyd Trethu Ail Gartrefi

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau uniongyrchol i gau bwlch yn y gyfraith sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi yng Nghymru osgoi talu'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ar adeg pan orfodir cynghorau lleol i gynyddu'r dreth gyngor i drethdalwyr lleol i wneud iawn am y diffyg yn eu cyllidebau.

Mae 800 o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd bellach yn ymelwa o fwlch yn y gyfraith i osgoi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl drwy gofrestru eu heiddo fel busnesau bach. Maent hefyd yn cael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes oherwydd anghysondeb yn y system sy'n eu categoreiddio fel 'busnesau bach' er eu bod yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae hyn yn cyfateb i golled o £1.5 miliwn o bwrs y wlad yng Ngwynedd yn unig; arian y gellid ei ddefnyddio i ddarparu tai cymdeithasol i bobl leol. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,281 llofnod

Dangos ar fap

5,000