Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad

Deiseb a gwblhawyd Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)

’Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi’r gorau i ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau ac a ddefnyddir i chwyddo niferoedd y tai mewn cynlluniau datblygu lleol. Galwn am i’r holl CDLl, waeth pa mor bell maent wedi cyrraedd, gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod o’r farn fod yr holl CDLl sy’n cael eu llywio gan amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru heb eu hystyried yn fanwl, eu bod yn sylfaenol wallus ac yn niweidiol i gymunedau Cymru.

Nid yw’r math hwn o gynllunio yn gynaliadwy, ac nid oes ar bobl Cymru mo’i angen na’i eisiau. Er mwyn atal y niwed sydd eisoes yn cael ei wneud, ac i atal niwed a dinistr pellach na ellir eu gwrthdroi yn ein cymunedau, ein hamgylchedd a’n hunaniaeth ledled Cymru, apeliwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith.’

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

826 llofnod

Dangos ar fap

5,000