Deiseb a gwblhawyd Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chefnogaeth yn ôl i'r "Llwybr Coch" (Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548) am y rhesymau a ganlyn:

1) Mae adeiladu'r ffordd newydd drwy goetir hynafol, ac ar draws tir amaethyddol, yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2) Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Pont Dyfrdwy newydd ar yr A494, ehangu'r A494 a gwelliannau eraill, yn gwella traffig Glannau Dyfrdwy heb fod angen y 'Llwybr Coch'.

3) Nid oedd y costau a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau dewis y "Llwybr Coch" yn cyfrif am y gwaith angenrheidiol i wella Pont Sir y Fflint. Nid yw hyn ychwaith yn cynnwys ychwanegu lôn araf ar bwynt tagfeydd difrifol ar yr A55, sef y bryn allan o Laneurgain tuag at Dreffynnon. Bydd adeiladu'r Llwybr Coch yn gwaethygu'r pwyntiau hyn. Mae'r amcangyfrif annigonol o'r costau yn awgrymu nad oes modd dweud bod y ffordd arfaethedig yn cynnig gwerth am arian. At hynny, nid yw'r costau'n cynnwys y gwelliannau arfaethedig i'r A494 (a amlinellir yn 2).

4) Roedd dewis y Llwybr Coch yn seiliedig ar arolygon traffig anghynrychioliadol.

5) Wrth ystyried y Llwybr Coch, methodd Llywodraeth Cymru ag ymgynghori'n ddigonol â thrigolion ardaloedd y Fflint a Llaneurgain er gwaetha'r effaith sylweddol bosibl ar eu cymunedau. Er gwaetha'r ffaith y byddai'r ffordd newydd yn costio dros chwarter biliwn o bunnoedd, mae'n debygol o arwain at fwy o dagfeydd traffig yn y cymunedau hyn.

6) Mae'r Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd wedi galw am weithredu brys i leihau allyriadau C02, gan ddweud mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym ar ôl i achub hinsawdd y byd. Mae angen inni fuddsoddi ein hadnoddau cyfyngedig mewn trafnidiaeth gynaliadwy fel rheilffyrdd.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,409 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) ar 2 Mawrth 2021: https://senedd.cymru/media/fwrjo00d/cr-ld14170-w.pdf

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gael yma:
https://busnes.senedd.cymru/documents/s116955/Ymateb%20Llywodraeth%20Cymru%20i%20adroddiad%20y%20pwyllgor.pdf