Deiseb a gwblhawyd Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed
Gwnewch hi'n drosedd i osod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed i atal adar rhag nythu.
Mae datblygwyr, ac eraill sydd â diddordeb, yn osgoi cyfreithiau sy'n diogelu adar drwy osod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed i atal adar rhag nythu.
Mae hyn yn dadwreiddio gwrychoedd a choed sydd o gymorth i fioamrywiaeth ac sy'n darparu'r unig safleoedd nythu sydd ar ôl i adar y mae eu niferoedd yn dirywio'n gyflym.
Mae gosod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed yn bygwth rhywogaethau o adar sydd ar drai, yn creu perygl o gaethiwo bywyd gwyllt, ac yn creu llawer iawn o wastraff plastig.
Mae'r arfer hefyd yn torri deddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol a basiwyd gan y Senedd eisoes.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon