Deiseb a gwblhawyd Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf er mwyn rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod yn ystod oriau anghymdeithasol. Gofynnwn am gychwyn cyfnodau o seibiant pan fydd tyrbinau gwynt yn cael eu diffodd.

Mae cyfnodau o seibiant rhag sŵn yn gyffredin mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw amdanynt yn ei adroddiad ar sŵn cymunedol; ac ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig maent yn weithredol mewn meysydd awyr, safleoedd adeiladu, ffatrïoedd a safleoedd eraill sydd â sŵn sy’n peri diflastod gyda’r hwyr a thros nos.

Rydym yn galw ar hyn i fod yn berthnasol i dyrbinau sydd dros 1.3MW, a bod cyfnodau o seibiant rhwng 18.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 1.5Km i breswylfeydd unigol; a rhwng 22.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 2Km i gymunedau. Dylai awdurdodau yng Nghymru sy’n trafod ceisiadau am dyrbinau sy’n cynhyrchu llai na 50MW o drydan, a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith sy’n trafod ceisiadau ar gyfer tyrbinau sy’n cynhyrchu dros 50MW o drydan, hysbysu datblygwyr o’r cyfyngiad iechyd y cyhoedd hwn a all effeithio ar dyrbinau unigol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,075 llofnod

Dangos ar fap

5,000