Deiseb a gwblhawyd Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

​Nid yw Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol i blant mor ifanc â 6 oed yn addas at y diben a dylid dod â nhw i ben cyn gynted â phosibl. Nid y ffordd orau ar gyfer plant ifanc sydd wedi'u hannog i ddysg drwy chwarae yw eu hasesu drwy eistedd am hyd at 40 munud i gwblhau prawf.

Er bod Llywodraeth Cymru yn argymell nad oes angen paratoi, mae'n anochel bod ysgolion yn cymryd amser o'u gwaith dysgu arferol i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion ac mae plant yn aml yn cael trafferth deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn arwain at golli hyder a mwynhad dysgu ar oedran mor ifanc a allai fod yn niweidiol i'w dysgu parhaus.

Mae Adolygiad Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015) yn argymell y dylai unrhyw asesiadau fod 'mor ysgafn eu cyffyrddiad â phosibl', 'osgoi biwrocratiaeth ddiangen', gan gynnwys ' asesiadau cyfannol o gyflawniadau' a defnyddio 'hunanasesu ac asesu gan gyfoedion' i 'annog plant a phobl ifanc i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain'. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers yr adolygiad hwn ac mae'r profion hyn yn dal i gael eu cynnal. O ganlyniad mae angen dod â fformat presennol yr asesiad strwythuredig i ben ar unwaith.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

256 llofnod

Dangos ar fap

5,000