Deiseb a gwblhawyd Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru. 

Rydw i'n chwaer 13 mlwydd oed i fachgen bach sydd â Syndrom Down, sy'n defnyddio iaith Makaton yn bennaf. Rwyf wedi dysgu iaith arwyddion Makaton er mwyn cyfathrebu â fy mrawd, ac oherwydd hyn, penderfynais sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i ddysgu. Roedd yn syndod i mi weld cymaint o alw gan bobl sydd am ddysgu Makaton er mwyn cyfathrebu â ffrindiau ac aelodau teulu sydd ag anawsterau dysgu.

Credaf y dylai gael ei gynnwys ym mhob ysgol yng Nghymru ochr yn ochr ag addysgu bob dydd er mwyn caniatáu i bob plentyn ddysgu i gyfathrebu drwy'r dull hwn.

Rwy'n angerddol dros gyflawni hyn ac yn credu ei fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Makaton er mwyn chwalu rhwystrau a chamsyniadau, a sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

​Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i brofi pa mor effeithiol yw defnyddio symbolau ac arwyddion er mwyn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd.

Mae canfyddiadau ymchwil presennol yn cefnogi'r defnydd o iaith arwyddion gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau deallusol a chyfathrebu.

Mae astudiaeth hefyd sy'n archwilio'r graddau y mae dysgu iaith arwyddion ochr yn ochr ag iaith dramor yn ystod gwersi ieithoedd tramor modern yn helpu i gefnogi'r eirfa ar lafar sy'n aros yn y cof.

Mae llawer o bapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi sy'n cefnogi defnyddio Makaton, gan gynnwys:-

  • Birket, E.M. (1984)
  • Colema, A. (2014)
  • Cornforth, A.R.T., Johnson, K. Walker, M. (1974)
  • Ford, J. (2006)
  • Francis. (2000)
  • Grove, N. (1980)
  • Powell, G. (1999)
  • Reed, A. (2014)
  • Sheehy, K. Duffy, H. (2009)
  • Volpato, D. ,Orton, D. and Blackburn, D. (1986)
  • Walker, M. Armfield, A. (1981)

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,024 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni’r hyblygrwydd bwriadol a natur y Cwricwlwm i Gymru newydd, sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni.