Deiseb a gwblhawyd Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r anghydraddoldeb i ben o ran mynediad at driniaeth thrombectomi strôc sy'n achub bywydau.

Mae thrombectomi yn driniaeth a ddefnyddir ar gyfer strôc isgemig lle caiff y ceulad gwaed ei dynnu gyda dyfais arbennig wedi'i osod drwy gathetr. Mae cyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi ei fanteision o ran lleihau anabledd hirdymor (morbidrwydd), ac achub bywydau (lleihau marwolaethau). Ym mis Ebrill 2017, cytunodd y GIG yn Lloegr i ariannu thrombectomi ar y GIG, bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y gall pob claf cymwys ei gael. Nid yw ar gael yn arferol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cytundebau gyda'r GIG yn Lloegr i gleifion Cymru gael mynediad i'w gwasanaethau yn amrywiol ac yn denau.

Mae cleifion fel Colin Rogers yn llythrennol yn marw. Roedd yn 55 oed pan fu farw. Gwrthodwyd triniaeth iddo am ei fod yn ddydd Sul ac nid oedd cytundeb i ganiatáu iddo gael ei anfon i Loegr. Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai wedi cael ei achub, amcangyfrifir y gallai'r driniaeth hon helpu dros 500 o bobl yng Nghymru. Nid ydym am i bobl y gellid eu hachub farw fel Colin, neu eu gadael ag anableddau dwys.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

685 llofnod

Dangos ar fap

5,000