Deiseb a gwblhawyd Bysiau i bobl nid er elw

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio cwmnïau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i Awdurdodau Lleol i gynnal gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl leol orau. Yn ogystal â darparu mynediad at gyflogaeth ac addysg, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater cymdeithasol, iechyd a lles sy'n dod yn fwyfwy pwysig wrth i wasanaethau bws gael eu cwtogi, gan effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o drigolion a fydd yn dod yn ynysig yn gymdeithasol ac yn methu â chyrraedd gwasanaethau sylfaenol.

Rhagor o fanylion

​Mae cwmnïau bysiau yn cwtogi ar lawer o wasanaethau craidd a arferai weithredu heb gymhorthdal neu gyda braidd ddim cymhorthdal. Nid yw cwmnïau yn tendro am gontractau newydd ac mae rhai yn gofyn am symiau chwe ffigur yn gymhorthdal er mwyn parhau i weithredu. Nid oes modd i Awdurdodau Lleol fforddio hyn gan eu bod yn wynebu pwysau cyllidebol. Ni all Awdurdodau Lleol redeg gwasanaethau mewn cystadleuaeth â'r cwmnïau. Mae'n cymryd gormod o amser i deithio i'r gwaith gan fod gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu cwtogi, hyd yn oed os ydynt ar gael, ac mae rhai yn orlawn. Pobl hŷn yw mwyafrif y trigolion sy'n dod i'r llu o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, ac maent yn pryderu am gael mynediad at wasanaethau, cadw apwyntiadau iechyd a dod yn ynysig. Mae unigrwydd yn broblem fawr yn ein cymdeithas. Ein nod yw galluogi pobl hŷn i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Ein nod yw iddynt aros yn feddyliol ac yn gorfforol heini ac egnïol. Mae bysiau cyhoeddus bellach yn fater brys o bwys mawr y mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

514 llofnod

Dangos ar fap

5,000