Deiseb a gwblhawyd Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Ym mis Chwefror 2012, bu farw fy mab, George, yn sydyn mewn Uned Frys yng Nghymru. Fe gerddon ni allan i'r nos heb ddim, ar ein pennau'n hunain ac mewn braw. Ni ddaeth neb, nid oedd neb yno i estyn llaw, gan adael ffrindiau ac aelodau'r teulu, a hwythau mewn galar hefyd, i'm cynnal i a Paul fy ngŵr. Bum niwrnod ar ôl colli ein mab, bu'n rhaid i mi a'm dau blentyn ifanc arall wynebu torcalon eto pan wnaeth Paul ladd ei hun. Unwaith eto, ddaeth neb.

Mae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.

Nid oes modd cynllunio na pharatoi ar gyfer colli plentyn yn annisgwyl, a gall y profiad ingol hwn effeithio ar iechyd meddwl rhieni, brodyr a chwiorydd a gweddill y teulu. Rydym yn credu bod y cymorth hwn yn hanfodol ac y bydd yn atal teuluoedd rhag gorfod cerdded allan i'r nos heb ddim gobaith, heb ddim cymorth ac, yn bwysicach na dim, heb eu plentyn.

Rhagor o fanylion

Ers 2012, rwyf wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod teuluoedd yn cael yr un cymorth wrth ffarwelio â'u plant ag a gânt pan fyddant yn eu croesawu i'r byd adeg eu genedigaeth. Sefydlwyd yr elusen 2 Wish Upon a Star i helpu teuluoedd a staff yn ystod y profiad o golli plentyn neu berson ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys creu blychau atgofion, cwnsela a sefydlu llwybr cymorth sydd ar gael ar unwaith drwy weithio gyda byrddau iechyd a heddluoedd yma yng Nghymru. Cyfeiriwyd dros 465 o deuluoedd atom ers i ni ddechrau cynorthwyo teuluoedd yn 2015. Mae'r rhesymau dros y marwolaethau'n cynnwys Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), damweiniau, salwch ac, yn fwy diweddar, mae nifer o bobl ifanc wedi cyflawni hunanladdiad. Rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan deuluoedd a staff, ond gwyddom nad yw pob teulu'n cael eu cyfeirio atom ac mae angen ein cymorth o hyd ar nifer ohonynt.

Mae'r elusen 2 Wish Upon a Star eisoes yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru ac mae pob heddlu yn cefnogi'r fenter. Rydym wedi sefydlu llwybr cymorth uniongyrchol ym mhob Uned Frys ac Uned Gofal Critigol ac mae'r llwybrau hyn wedi'u hamlinellu'n glir yn nogfen PRUDiC Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda phob crwner, corffdy, tîm rhoi organau ac Ambiwlans Awyr Cymru, i wneud yn siŵr bod pob teulu'n gwybod amdanom. Fodd bynnag, mae nifer o deuluoedd yn dal yn gorfod ymdopi heb ein cymorth. Rydym wedi clywed am staff sy'n 'anghofio' rhoi blychau atgofion i'r rheini, yn penderfynu nad oes angen cymorth ar deulu bachgen 18 oed gan ei fod 'wedi dechrau eillio' ac sy'n credu 'nad yw'n briodol' cynnig cymorth adeg marwolaeth plentyn. Nid y staff sydd i benderfynu a oes angen cymorth ar deulu.

Gwyddom, wrth siarad â staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn annisgwyl, ac rydym am i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,682 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 3 Tachwedd 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd 2021