Deiseb a gwblhawyd Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru

​Ar hyn o bryd, mae'r Iaith Gymraeg yn orfodol naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith ym mhob un o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i ysgolion preifat, nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Mewn sawl achos, mae disgyblion yn gadael ysgolion preifat yn methu â siarad gair o Gymraeg. Os ydym am wneud cynnydd gyda'n hiaith, ac am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid inni roi'r cyfle i bob plenty yng Nghymru ddysgu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:- wneud TGAU Cymraeg Ail Iaith yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru yn ôl y gyfraith ar gyfer y cwricwlwm newydd yn 2022.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

175 llofnod

Dangos ar fap

5,000