Deiseb a gwblhawyd Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau

​Erbyn hyn mae gan Gynulliad Cymru bŵer cyfreithiol dros ei system etholiadol ei hun. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i atal Aelodau ar y rhestr ranbarthol rhag newid pleidiau gwleidyddol. Wrth bleidleisio ar y rhestr ranbarthol, mae pleidleiswyr yn dewis pleidiau gwleidyddol yn hytrach nag unigolion. O dan y rheolau presennol, fodd bynnag, gall Aelodau a etholwyd ar y rhestr ranbarthol newid pleidiau'n wirfoddol.

Yn ystod tymhorau blaenorol y Cynulliad, ni fu hynny'n fawr o bwys, ond yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi dirmygu'r sefydliad trwy ddatgan eu bod yn annibynnol neu newid pleidiau. Mae un Aelod Cynulliad bellach wedi cynrychioli tair plaid wleidyddol wahanol yn ystod oes y Cynulliad, a datganodd un arall ei bod yn Aelod annibynnol o fewn diwrnodau iddi gael ei sefydlu fel Aelod Cynulliad. Nid oes mandad democrataidd ar gyfer hyn. Mae'n golygu nad oes gan draean o'r Senedd fawr o atebolrwydd i'r etholwyr, na wnaeth bleidleisio drostynt ond a bleidleisiodd dros y blaid yr oeddent yn ei chynrychioli'n wreiddiol. Dylid newid y rheolau fel bod Aelod Cynulliad ar y rhestr, sy'n penderfynu'n wirfoddol i newid ei ymlyniad gwleidyddol, yn gadael ei sedd fel Aelod Cynulliad a bod yr ymgeisydd nesaf dros y blaid wleidyddol honno ar y rhestr ranbarthol yn cymryd ei le. Er mwyn atal camddefnyddio'r system, dylai unrhyw ymgeisydd sy'n cael ei ddiarddel yn anwirfoddol o'i grŵp allu aros yn Aelod Cynulliad annibynnol ond ni ddylid caniatáu iddo ymuno â phlaid arall.

Yn anffodus, mae'r ddeiseb hon yn nodi y gall y newid hwn gadarnhau ymhellach y canfyddiad bod Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn 'ddinasyddion eilradd' yn y Cynulliad. Fodd bynnag, teimlwn fod y broblem hon yn gynhenid i'r system aelod ychwanegol dwy haen ac, yn yr achos hwn, y lleiaf o ddau ddrwg o'i gymharu â'r ffordd y mae'r rheolau presennol yn caniatáu i'r broses etholiadol gael ei thanseilio.

Mae'r ddeiseb hon yn awgrymu y dylid diwygio Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i gynnwys y newidiadau y cyfeirir atynt uchod.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,301 llofnod

Dangos ar fap

5,000