Deiseb a gwblhawyd Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gondemnio’r cynnydd mewn troseddau casineb ac i annog Llywodraeth Cymru i lunio polisïau sy’n herio’r canfyddiad negyddol o werth pobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghymru heddiw.
Gwybodaeth ychwanegol: Mencap Cymru yw’r sefydliad trydydd sector blaenllaw yng Nghymru sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Ar 22 Mehefin, bydd yn lansio ymgyrch tair blynedd yn erbyn trosedd casineb.
Mae’r ddeiseb yn ceisio herio Llywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd creu polisïau sy’n mynd i’r afael â’r agweddau negyddol tuag at bobl anabl a’u teuluoedd sydd gan rai pobl yn ein cymunedau yng Nghymru.
Mae nifer cynyddol o sefydliadau fel Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi ymrwymo i atal troseddau casineb yn erbyn pobl anabl drwy hyrwyddo’r cyfraniadau cadarnhaol y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud i Gymru, drwy helpu i fynd i’r afael ag achosion o droseddau casineb o’r fath, yn ogystal â rhoi cefnogaeth ymarferol fel helpu pobl i roi gwybod am droseddau casineb.
Bydd y ddeiseb ar agor i’w llofnodi o lansiad yr ymgyrch yn ystod Wythnos Anableddau Dysgu, tan Ddiwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau ar 3 Rhagfyr 2011.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon