Deiseb a gwblhawyd Tocynnau Teithio Rhatach ar gyfer Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus sy’n Iau na 18 Oed

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno tocynnau teithio rhatach ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus sy’n iau na 18 oed.

Rhagor o fanylion

Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd costau teithio i blant wedi’i phennu ar gyfer pobl sydd o dan 14 oed. Mae hyn, yn ôl pob tebyg, yn dyddio’n ôl i’r adeg pan mai dyna fyddai oedran plant yn gadael yr ysgol. Byddai’r mesur hwn yn decach pe byddai’r oedran yn codi i 16, oherwydd hyd yn oed os yw plant yn dechrau gweithio pan yn 16 oed, mae’n anhebygol y byddant yn ennill digon o arian i fforddio talu’r gost lawn. Byddai hefyd yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

26 llofnod

Dangos ar fap

5,000