Deiseb a gwblhawyd Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru

Nid oes Adran Blinder Cronig o gwbl yng Nghymru! Mae Blinder Cronig yn cael ei anghofio neu ei ystyried fel iselder. Hoffwn weld adran yn cael ei sefydlu gyda'r bwriad y bydd unigolion yn cael eu hasesu yn iawn. Dywed meddygon teulu 'nid oes gwellhad' neu 'nid ydych chi wedi cael eich asesu'. Heb adran Blinder Cronig, ni ellir cynnal ymchwil i ddod o hyd i iachâd llwyr na ffordd o gynnal asesiad.

Rwy'n dioddef gan y cyflwr hwn ers 23 mlynedd. Dechreuodd ar ôl wythnos o dwymyn boeth, gyda gwres o 104 ar y pumed diwrnod. Ychydig a wyddys am Flinder Cronig. Ysgrifennais Ddeiseb yn ddiweddar a gasglodd 65 llofnod yn gofyn am i adran gael ei sefydlu yng Nghymru; dangosodd fod gan 20 ohonynt aelodau teulu neu ffrindiau sy'n dioddef gan y cyflwr. Mae mor wanychol ac mae'n wastraff o fywyd. Ni ellir meddwl, canolbwyntio na gwneud dim byd corfforol heb orfod mynd i'r gwely wedyn. Gall gymryd dyddiau i ddod dros yr ymdrech leiaf.

Gwelais fenyw yn cael ei chyfweld ar y teledu. Roedd hi mewn Clinig Blinder Cronig ac yn dweud ei bod wedi cael trwyth Myers, sy'n cynnwys fitaminau a mwynau, ac roedd yn teimlo mor dda, fel hi ei hunan eto.  Nid yw'r driniaeth hon ar gael ar y GIG. Rwyf am roi cynnig arni i weld ai dyma'r ateb, ond mae angen dod o hyd i glinig preifat i weinyddu'r trwyth Myers. Y llynedd, cefais 'gyfnod o bum diwrnod' o feddwl clir ac egni. Nid wyf yn gwybod a oedd hyn oherwydd fy mod yn cymryd capsiwl o fitamin B-gymhlyg bob dydd am ychydig. Gwelais ddoctor Meddygaeth Gyffredinol yn Ysbyty Llandochau yn ddiweddar [mae'n gweld llawer o bobl ac arnynt flinder cronig]. Dywedais wrtho am y trwyth hwn ac mae ganddo ddiddordeb mewn clywed am ganlyniad y driniaeth. Byddaf yn adrodd yn ôl iddo. Yn y cyfamser, a wnewch chi gefnogi'r ddeiseb hon? Mae bach o obaith yn hanfodol, a'r unig ffordd yw sicrhau bod yr help cywir ar gael yn y lle cyntaf. Gan beidio â byw bywyd anghyflawn. Diolch.

Rhagor o fanylion

​Mae canolbwyntio yn wael; mae'n anodd amgyffred gwybodaeth yn llawn. Mae'n amhosibl cynllunio neu drefnu pethau. Mae cynhyrfu yn lluddedig. Ni ellir gwneud gwaith corfforol heb orfod mynd i'r gwely wedyn. Gall gymryd ychydig ddyddiau i fwrw blinder ar ôl gwneud unrhyw beth egnïol, ac mae cerdded unrhyw bellter yn broblem. Gall eistedd o flaen cyfrifiadur am 30 munud fod yn dreth ar egni rhywun. Mae siopa yn broblem fawr oni bai bod bygi y gellir ei ddefnyddio i fynd o amgylch y siop. Yn aml bydd rhaid siopa ar-lein, sy'n flinedig iawn. Rwyf wastad wedi bod yn berson gweithgar gyda llawer o ddiddordebau. Mae dyddiau lle na allaf wneud dim ond eistedd. Nid yw bywyd ond rhwystredigaeth. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

155 llofnod

Dangos ar fap

5,000