Deiseb a gwblhawyd Cyfleusterau toiled Changing Places

​Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau ar unwaith i reoliadau adeiladu a chynllunio er mwyn sicrhau y darperir cyfleusterau toiled Changing Places, gyda mainc newid i oedolion, teclyn codi a digon o le i 2 ofalwr yn yr holl adeiladau cyhoeddus mawr pan gânt eu hadeiladu, eu hailddatblygu neu eu hailwampio.

Rhagor o fanylion

​Achos enghreifftiol

"Mae fy merch yn 9 oed ac mae ganddi gyflwr o'r enw oedi datblygiadol cyffredinol ac mae'n defnyddio cadair olwyn. Mae ei hanabledd yn golygu nad yw'n gallu eistedd yn syth heb gymorth ac mae'n ddi-eiriau, felly ni all ddweud wrthyf pan fydd angen iddi fynd i'r tŷ bach. Mae hyn yn golygu ei bod yn gwisgo cewynnau. Pan fydd angen newid ei chewyn pan na fyddwn gartref, rydym yn aml yn cael trafferth dod o hyd i gyfleusterau i wneud hynny. Mae'n mynd yn rhy fawr ar gyfer uned newid cewynnau i fabanod a'n hunig opsiwn arall yw llawr y toiled, sy'n aflan, yn aflanwaith ac, yn fy marn i, yn annynol yn ogystal â bod yn anurddasol. Mae hon yn sefyllfa gwbl annerbyniol ac afresymol i unrhyw un. Hefyd, bob tro rwy'n ei chodi, rwy'n ymwybodol fy mod yn rhoi fy hun mewn perygl o anaf acíwt i'r cefn, a bydd y perygl hwn yn cynyddu wrth iddi fynd yn hŷn ac yn fwy. Ni allaf gredu sut y mae pobl yn llwyddo i newid cewynnau oedolion fel hyn.

Mae miloedd o bobl anabl ar draws Cymru y mae arnynt angen y cyfleusterau a gynigir gan doiled Changing Places.

Dywed Safonau Prydeinig 8300/2018 y dylid darparu toiledau Changing Places mewn adeiladau a chyfadeiladau mwy, megis:

A/ Terfynfeydd neu gyfnewidfeydd trafnidiaeth mawr, e.e. gorsafoedd trenau mawr a meysydd awyr

B/ Gwasanaethau traffordd

C/ Cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwestai mawr

D/ Canolfannau diwylliannol, megis amgueddfeydd, neuaddau cyngerdd ac orielau celf a chanolfannau ffydd

E/ Stadia ac awditoria mawr

F/ Mangreoedd manwerthu masnachol mawr a chanolfannau siopa

G/ Adeiladau allweddol yng nghanol trefi, e.e. neuaddau tref, canolfannau dinesig a phrif lyfrgelloedd cyhoeddus

H/ Sefydliadau addysgol

I/ Cyfleusterau iechyd, megis ysbytai, canolfannau iechyd a phractisau cymunedol

J/ Atyniadau ymwelwyr eraill, megis parciau thema, traethau sy'n cael eu monitro a pharciau

Gall Llywodraeth Cymru wneud yn well na'r sefyllfa bresennol a gwneud toiledau Changing Places yn orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus mawr fel y'u rhestrir yn BS8300/2018 ac mae'n rhaid i hyn ddigwydd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,273 llofnod

Dangos ar fap

5,000