Deiseb a gwblhawyd Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddilyn y gyfraith yn Lloegr sy'n ymgorffori yn y gyfraith hawl preswylwyr, blogwyr a newyddiadurwyr i adrodd, blogio, trydar a ffilmio cyfarfodydd cyngor i sicrhau natur agored a thryloywder. Nid yw hyn wedi digwydd yng Nghymru, a dylid ei gyflwyno er mwyn caniatáu yr un fath yng Nghymru.
Dylai'r gofyniad hwn ganiatáu i'r cyhoedd, fel arsylwyr cyfrifol, recordio neu ffilmio cyfarfodydd o'r fath heb fod angen caniatâd ymlaen llaw ac i ailddefnyddio'r deunydd yn rhydd er mwyn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn ehangach ag etholwyr.
Gwnaeth Lloegr gyflwyno'r gyfraith hon a rhoi'r hawliau i ni yn 2014, a dylai Cymru gael yr un hawliau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon