Deiseb a gwblhawyd Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm adeg eu lladd yng Nghymru.

Diben Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 yw diogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) eu cymhwyso a'u gorfodi'n gywir, a rhaid bod digon o gyllid iddi allu cyflawni ei dyletswyddau o dan y Rheoliadau.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dim ond £20,000 y flwyddyn i'r ASB ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd ar draws o leiaf 23 o ladd-dai yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lladd degau o filiynau o anifeiliaid bob blwyddyn. Mae'r swm hwn yn druenus ac yn gwbl annigonol i dalu am yr holl waith gofynnol, gan gynnwys gwaith effeithiol i fonitro arferion lles, ymchwiliadau, gorfodaeth, cyngor cyfreithiol, a'r staff i wneud hynny. Mae faint sy'n cael ei ddarparu yn llawer is na'r hyn y mae'r ASB ei hun wedi dweud (mewn papurau bwrdd) y mae ei angen arni i gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â lles anifeiliaid adeg eu lladd.

Daw cryn dystiolaeth o ymchwiliadau cudd mewn lladd-dai mewn rhannau eraill o'r DU o dorri rheoliadau lles yn rheolaidd, a bod llawer o anifeiliaid yn dioddef camdriniaeth. Nid oes rheswm dros gredu nad yw'r risgiau hyn hefyd yn codi mewn lladd-dai yng Nghymru.

Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod rheoliadau lles yn drylwyr ac yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar fyrder ei chyllid i'r ASB at y diben hwn, a chynyddu'n sylweddol y cyllid i ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd yn ddi-oed.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,149 llofnod

Dangos ar fap

5,000