Deiseb a gwblhawyd Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i wahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffeiriau.

Mae pysgod aur yn dal i gael eu rhoi i ffwrdd fel gwobrau mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad. Maent yn greaduriaid cymhleth a all fyw am hyd at 25+ mlynedd a thyfu rhwng 25-45cm. Cânt eu cadw mewn amodau gwael a'u rhoi i bobl sy'n ennill ar fympwy, ac oherwydd hyn maent ond yn byw am ychydig fisoedd fel arfer. Mae hwn yn draddodiad hynafol a, thrwy addysg ddiweddar, rydym wedi dod i sylweddoli ei fod yn anfoesol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,416 llofnod

Dangos ar fap

5,000