Deiseb a gwblhawyd Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wella'r mesurau amddiffyn i gramenogion a gwahardd yr arfer creulon o ferwi cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati yn fyw.

 

Mae sŵolegwyr wedi darganfod bod cimychiaid a chramenogion eraill, yn wahanol i fodau dynol, yn METHU â mynd i 'sioc', felly mae taflu nhw i botaid o ddŵr BERWEDIG yn peri iddynt ddioddef yn hwy. Pan fydd anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol, yn dioddef poen eithafol, mae'r system nerfol yn ymdopi drwy stopio gweithio. Mae gwyddonwyr wedi darganfod ei bod yn cymryd hyd at 45 eiliad i gimychiaid a chrancod farw pan gânt eu taflu i botaid o ddŵr BERWEDIG (sef rhywbeth a fyddai'n hollol annerbyniol ar gyfer anifail ag asgwrn cefn fel buwch neu fochyn). I roi persbectif i'r mater, os cânt eu datgymalu, gall y system nerfol barhau i weithio am hyd at awr.

 

Nod Deddf Lles Anifeiliaid yw amddiffyn anifeiliaid, gan ddeall bod creaduriaid ymdeimladol yn gallu teimlo poen, ac mae dyletswydd foesol arnom i BEIDIO â pheri dioddefaint. O dan y Ddeddf mae'n drosedd peri dioddefaint diangen i unrhyw anifail, o ran eu cadw ac ar adeg eu lladd. Mae'n golygu bod modd erlyn pobl neu sefydliadau sy'n esgeuluso neu gam-drin anifeiliaid 'gwarchodedig'. Mae 'anifeiliaid a ffermir', pysgod ac ymlusgiaid oll yn cael eu diogelu dan y Ddeddf hon. Ond nid felly y mae yn achos infertebratau megis crancod, cimychiaid, cimychiaid afon a chorgimychiaid.

 

At hynny, daethpwyd o hyd i gramenogion byw ar werth, yn aros eu tynged ar badelli iâ, wedi'u pacio a'u rhwymo'n dynn mewn tanciau neu blastig i'r cwsmer eu lladd gartref. Yn y Swistir, mae berwi cimwch yn fyw yn cael ei ystyried yn weithred o greulondeb wrth anifail. Erbyn hyn mae'n rhaid i bobl y Swistir stynio neu ladd anifeiliaid cyn eu berwi, ac ni cheir cadw cimychiaid yn fyw ar iâ.

 

Dylid ehangu Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys cramenogion, gan gynnwys cimychiaid, crancod, corgimychiaid, cimychiaid afon ac ati.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,016 llofnod

Dangos ar fap

5,000