Deiseb a gwblhawyd Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri, ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

​Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

13,265 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg a’r deisebwyr. Yng ngoleuni’r ffaith bod Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri wedi aros ar agor a bod y deisebydd yn fodlon â’r sefyllfa bresennol, penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’n cyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Mae’r dystiolaeth a drafodwyd gan y Pwyllgor ar gael yma:
https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=26283&Opt=3