Deiseb a gwblhawyd Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

Mae'r GIG yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cynnig prawf sgrinio Canser y Coluddyn bob 2 flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed.

Yn Lloegr a'r Alban, gallwch wneud cais am becyn sgrinio bob dwy flynedd ar ôl 74 oed. NID yw hyn ar gael i'r rhai dros 74 oed yng Nghymru.

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod profion sgrinio canser y coluddyn ar gael fel y mae yn Lloegr a'r Alban.

Mae dod â'r profion sgrinio i ben yn 74 oed yng Nghymru yn awgrymu nad ydym yn gwerthfawrogi ein henoed yn yr un ffordd ag y maent yn gwneud yn Lloegr a'r Alban. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

69 llofnod

Dangos ar fap

5,000