Deiseb a gwblhawyd Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol wrth osod eu cylch gwaith strategol i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2020/2021 ac yn y dyfodol. Yn benodol dylai'r cylch gwaith gynnwys:
• Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn ganolog i'w bwrpas craidd wrth geisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy:
Gweithio tuag at welliant cyffredinol yn statws bywyd gwyllt Cymru ac atal neu o leiaf leihau'r risg o unrhyw ddifodiant pellach o ganlyniad i weithgareddau dynol.
Sefydlu ardaloedd cynaliadwy, mwy a llai tameidiog ar gyfer bywyd gwyllt, a ddylai ganolbwyntio i ddechrau ar gydgrynhoi ac ymestyn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol presennol ac ardaloedd gwarchodedig eraill, ac yna sefydlu ardaloedd newydd.
Blaenoriaethu'r angen i gael statws ffafriol neu adferol ar gyfer nodweddion cadwraeth ar bob safle cadwraeth natur statudol (AGA, ACA, SoDdGA a GNG).
Datblygu a gwella rhwydwaith effeithiol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n ddigonol i sicrhau bod bywyd morol a physgodfeydd cynaliadwy yn cael eu diogelu'n ddigonol o amgylch Cymru.
Sicrhau bod mwy o bobl yn mynd ati i gymryd rhan mewn materion bioamrywiaeth, a'u bod yn ymwybodol o arwyddocâd bioamrywiaeth i'w hiechyd a'u lles.
Rhagor o fanylion
Ers cychwyn Cyfoeth Naturiol Cymru chwe blynedd yn ôl, mae dirywiad cyson ac amlwg wedi bod yn ymrwymiad Cymru tuag at fioamrywiaeth a chadwraeth natur. Mae Cymru wedi'i disgrifio fel un o'r ardaloedd mwyaf disbyddedig o ran natur yn y byd sydd eisoes wedi achosi difodiant llawer o'i rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae nifer fawr o'r rhywogaethau sydd yn dal i fodoli bellach yn brin neu o dan fygythiad, gan oroesi mewn rhannau o'u cynefinoedd sydd yn aml yn ynysig.
Mae INCC yn credu bod pobl Cymru a'r bywyd gwyllt y maen nhw'n rhannu eu cymuned ag ef yn haeddu gwell. Mae angen mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru os yw Cymru am fod ag unrhyw obaith o wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac atal difodiant bywyd gwyllt pellach rhag digwydd.
Ffordd effeithiol o ddangos yr ymrwymiad hwn tuag at wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth fyddai sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys 'Bioamrywiaeth' yn benodol fel rhan o gylch gwaith strategol Cyfoeth Naturiol Cymru.
O ystyried y colledion parhaus i fywyd gwyllt a'r hyn a welir fel diffyg blaenoriaethu tuag at gadwraeth natur yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n amlwg na all 'Bioamrywiaeth' aros fel rhan ymhlyg o swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid ei wneud yn benodol a rhoi blaenoriaeth briodol iddo.
Os na fydd unrhyw newid, mae difodiant bywyd gwyllt yng Nghymru yn y dyfodol yn anochel.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon