Deiseb a gwblhawyd Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch
Mae polisi presennol Cynulliad Cymru wedi categoreiddio Amseroedd Ymateb Ambiwlansau ar gyfer unigolyn sydd wedi cael strôc yn y categori "oren", ac mae hyn yn golygu nad oes DIM targed amser ymateb i'w gyrraedd neu fodloni.
Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i'r targed amser ymateb ar gyfer person yr amheuir ei fod wedi cael strôc gael ei ailgategoreiddio yn ôl i'r statws "coch", a thrwy hynny sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael strôc yn cael cymorth ambiwlans cyn gynted â phosibl.
Mae'n ffaith hysbys mai'r "awr euraidd" yw'r 60 munud mwyaf hanfodol i gael cymorth meddygol angenrheidiol i unrhywun sydd wedi cael strôc. Ni ddylai neb yng Nghymru fod â pherygl y caiff yr "awr euraidd" hon ei hesgeuluso drwy orfod aros am amser ymateb categori "oren" cyn cael cymorth ambiwlans.
Sicrhewch bod unigolion sy'n cael strôc yn derbyn yr amseroedd ymateb y maent y neu haeddu ac y maent eu hangen – sefydlwch darged amser ymateb "coch" heddiw.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon