Deiseb a gwblhawyd Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn ofyniad cyfreithiol i bob meddygfa teulu gael gwelyau triniaeth a theclynnau codi llydan y gellir eu haddasu at ddefnydd cleifion anabl, fel y gellir eu harchwilio pryd bynnag fo angen.

Cefais fy ngeni â Spinabifida ym 1970 ac, fel goroeswr y clefyd hwn, rwyf wedi fy mharlysu o uwchben y wast i lawr ac yn defnyddio cadair olwyn llawn amser. Yn 2017 cefais ddiagnosis o ganser y bledren cam 4. Ni all gael ei brofi'n gyfreithiol, ond rwy'n credu'n gryf pe bawn i wedi cael fy archwilio yn gynharach yn y blynyddoedd cynt yn fy meddygfa teulu ar wely triniaeth llydan y gellir ei addasu, efallai gyda chymorth teclyn codi, yna ni fyddai'r diagnosis o ganser wedi dod mor hwyr. Ers i mi fod yn edrych ar y mater hwn, mae nifer o fenywod anabl wedi siarad â mi ynglŷn â sut nad oes ganddynt fynediad cyfartal i brofion ceg y groth oherwydd y broblem hon hefyd. Yn aml, mae pobl yn credu bod cael mynediad i'r anabl yn golygu lifftiau a rampiau yn unig, ond, ym maes gofal iechyd, mae'n llawer mwy cymhleth. Beth am ymuno ynghyd i wneud mynediad i ofal iechyd yn gyfartal i bawb.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

121 llofnod

Dangos ar fap

5,000