Deiseb a gwblhawyd CF3 yn erbyn y Llosgydd

​Mae cynlluniau i adeiladu llosgydd newydd yn CF3 ar Newlands Road, Gwynllŵg, Caerdydd. Mae hyn yn agos iawn i gartrefi ac ysgolion. Er enghraifft, nid yw ond 500 metr i ffwrdd o Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae llawer o breswylfeydd ac ysgolion eraill yn CF3 hefyd ymhell o fewn hanner milltir iddo.

Bydd y llosgydd arfaethedig yn llosgi 200,000 tunnell o wastraff diwydiannol y flwyddyn a bydd yn gweithio 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Y bwriad yw ei adeiladu mor gynnar â 2020/21.

Caiff y gwastraff diwydiannol sydd i'w losgi ei gludo i'r safle arfaethedig ar 80 o lorïau bob dydd, gyda phob un yn cario 20 tunnell o wastraff. Bydd hefyd angen cludo ymaith y lludw gwenwynig y bydd y llosgydd yn ei greu.

Bydd y safle yr un maint â 1.5 cae rygbi, a bydd y prif adeilad dros 40 metr o uchder; bydd corn y simnai dros 70 metr o uchder.

Rydym o'r farn nad yw trigolion CF3 am gael llosgydd yn eu cymuned. Credwn y bydd yn creu sŵn, llygredd aer a thraffig, ac na fydd yn dda i iechyd pobl sy'n byw yng nghymuned CF3.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,224 llofnod

Dangos ar fap

5,000