Deiseb a gwblhawyd Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i glustnodi cyllideb ychwanegol i ysgolion ar draws Cymru, er mwyn medru darparu'r addysg ychwanegol sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i wireddu amcanion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Rhagor o fanylion
Mae diffyg adnoddau gan ysgolion ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn datgan y canlynol:
"Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol."
Ar hyn o bryd nid oes gan ysgolion ddigon o adnoddau i fedru cynnig y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar eu disgyblion.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon