Deiseb a gwblhawyd Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei gwrthwynebiad yn ôl ac i gefnogi'r cynnig bod Network Rail yn caniatáu i Reilffordd Ganolog Ynys Môn gael ei haddasu yn llwybr amlddefnydd di-draffig 18 milltir o Amlwch i'r Gaerwen. Gan nad yw wedi cael ei defnyddio am y 26 mlynedd diwethaf, credwn na allai'r llinell gyflawni unrhyw bwrpas defnyddiol i gludo teithwyr na chludo nwyddau rhwng y Gaerwen ac Amlwch. Yn lle hynny, byddai llwybr amlddefnydd Lôn Las Môn ar agor i'w ddefnyddio gan deuluoedd, cerddwyr, rhedwyr, reidwyr ceffylau a beicwyr hamdden, gan gynnwys y rhai â gofynion mynediad i'r anabl. 

Rhagor o fanylion

​Yn wahanol i siroedd cyfagos Gwynedd a Chonwy, ychydig iawn o lwybrau di-draffig sydd yna ar Ynys Môn. Er bod dau lwybr beicio cenedlaethol i'w cael ar yr ynys, ffyrdd dosbarth B yw'r rhain ar y cyfan, gydag arwyddion yn nodi eu bod at ddefnydd beicwyr ffordd profiadol yn bennaf. Mae 60 y cant o bobl nad ydynt yn beicio yn nodi ofn traffig fel rheswm dros beidio â defnyddio beic wrth deithio o le i le. Mae llwybr di-draffig fel Lôn Las Môn yn hanfodol i annog mwy o bobl i feicio at ddibenion hamdden a thrafnidiaeth. At hynny, gan fod un digwyddiad traffig ffordd bob dydd ar gyfartaledd yn cynnwys reidwyr ceffylau, byddai reidwyr ceffylau ar Ynys Môn hefyd yn elwa ar lwybr di-draffig, i ffwrdd o gerbydau sy'n symud yn gyflym ac sy'n peri perygl mawr i geffylau a'u reidwyr. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, byddai'r llwybr gwyrdd amlddefnydd yn goridor pellter hir di-draffig o dde orllewin i ogledd ddwyrain yr ynys, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gysylltu â llwybr arfordirol Ynys Môn yn ogystal â llwybrau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau eraill. Byddai'r prosiect yn arwain at fanteision economaidd i'r sector twristiaeth ar Ynys Môn hefyd. Mae hen lwybr rheilffordd y Camel Trail yng Nghernyw yn brawf o hynny a thua'r un hyd â llwybr arfaethedig Lôn Las Môn, sef 17.3 milltir. Yn 2015, gwnaeth defnyddwyr y Camel Trail wario tua £6.7 miliwn a chynhyrchu tua £13 miliwn o drosiant busnes. Gyda gordewdra, materion iechyd meddwl a lefelau diabetes math 2 yn cynyddu ar raddfa frawychus, byddai Lôn Las Môn yn caniatáu i'r cyhoedd ymarfer corff mewn amgylchedd di-draffig, i ffwrdd o allyriadau cerbydau a llygryddion, ac ar dir sy'n hygyrch i'r rheini ag anableddau ac anghenion mynediad. Byddai manteision sylweddol yn deillio o'r prosiect hwn i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, ac yn ddi-os byddent yn gwella ansawdd bywyd pawb ar Ynys Môn. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,216 llofnod

Dangos ar fap

5,000