Deiseb a gwblhawyd Gosodwch derfyn cyfreithiol ar uchafswm y geist bridio mewn sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru.

​Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 wedi gosod y gofyniad i fridiwr â 3 gast fridio neu fwy gael trwydded fel sefydliad bridio. Fodd bynnag, ni osodwyd terfyn uchaf ar nifer y geist bridio y gellir eu cadw mewn sefydliad bridio cŵn trwyddedig.

Felly, mae sefydliadau bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru sy'n bridio cŵn ar raddfa ddiwydiannol, gyda rhai sefydliadau'n drwyddedig i gael 90 neu 100 o eist bridio ar un safle. Hyd yn oed os caiff amodau trwyddedu eu bodloni yn y sefydliadau bridio torfol hyn, mae bridio cŵn ar raddfa mor ddiwydiannol yn arfer hynod amheus ac mae angen ei adolygu. Felly, mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddiffinio terfyn uchaf ar nifer y geist bridio mewn cynelau bridio trwyddedig. Dylai'r ymgynghoriad hwn gynnwys adolygiad a yw cyhoedd Cymru a sefydliadau Cymru o'r farn bod bridio cŵn torfol yn dderbyniol. Mae angen i'r ymgynghoriad hefyd ystyried a yw'r awdurdodau trwyddedu lleol yng Nghymru wedi cyflawni eu gofyniad i archwilio a dirymu trwyddedau bridio cŵn lle y bo angen. Os ydym yn caniatáu bridio cŵn torfol, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi amodau trwyddedu ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau fel y'u gosodwyd yn Rheoliadau 2014.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

229 llofnod

Dangos ar fap

5,000