Deiseb a gwblhawyd Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.

​Yn dilyn rhaglen ddogfen a ddarlledwyd ar BBC One Cymru nos Lun 30 Medi 2019, yn tynnu sylw at gyflwr dychrynllyd y fasnach cŵn bach gyfreithlon, drwyddedig a reoleiddir yng Nghymru, ffaeleddau'r broses arolygu, yr anghysonderau a'r camgymeriadau yn adroddiadau arolygu trwyddedau'r Cyngor a'r canllawiau gofidus, yn aml, a roddir gan filfeddygon i arolygwyr trwyddedau (nad ydynt yn arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid) ar ffitrwydd cŵn bridio, rydym yn galw ar y Gweinidog i ymyrryd ar unwaith a rhoi cyfarwyddyd i holl gynghorau Cymru i osod embargo ar unrhyw drwyddedau newydd, ar brosesau adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio'n ymwneud â bridio cŵn nes bydd ymchwiliad llawn wedi'i gynnal i'r ffaeleddau hyn: Ffaeleddau rydym wedi bod yn darparu tystiolaeth arnynt ers blynyddoedd i Lywodraeth Cymru a chynghorau sydd, yn eu tro, wedi'u hanwybyddu neu eu diystyru. Nid oes unrhyw ddiben parhau i roi trwyddedau bridio cŵn o dan yr amgylchiadau dan sylw. Byddai gwneud hynny'n caniatáu i system drwyddedu ddiffygiol barhau, gan beryglu lles cŵn bridio a chŵn bach yn y sefydliadau hyn ac yn rhoi ymdeimlad ffug o sicrwydd i'r cyhoedd a fydd yn credu ei bod yn iawn iddynt brynu ci gan sefydliad sydd wedi'i drwyddedu o dan y drefn bresennol. Mae'n amlwg ei bod yn anodd i'r cyhoedd wahaniaethu rhwng fferm cŵn bach trwyddedig a didrwydded a chan fod y Gweinidog ei hun wedi ymrwymo i gael gwared ar ffermydd cŵn bach yng Nghymru, mae'n sefyll i reswm y bydd hi am gymryd y camau mwyaf priodol, a hynny ar unwaith, i sicrhau bod hyn yn digwydd nawr. Er ein bod yn croesawu'r addewid i gynnal adolygiad brys o'r system drwyddedu bresennol, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau cadarn, newydd ac addas i'r diben, ni ddylid cymeradwyo unrhyw drwyddedau newydd, ni ddylid adnewyddu unrhyw drwyddedau ac ni ddylid cymeradwyo unrhyw geisiadau cynllunio i adeiladu sefydliadau bridio cŵn newydd neu i ymestyn sefydliadau bridio presennol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,738 llofnod

Dangos ar fap

5,000