Deiseb a gwblhawyd Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllidebau i gynghorau erbyn canol Ionawr 2020 fan bellaf er mwyn i awdurdodau lleol, yn gyntaf, gydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r broses gosod cyllidebau ar gyfer y dreth gyngor, ac yn ail fel y gallant roi cyllidebau deddfwriaethol priodol i ysgolion er mwyn iddynt hwy gydymffurfio â'u canllawiau eu hunain a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae Cangen Castell-nedd Port Talbot o UNISON yn credu bod pob cyngor yng Nghymru o dan bwysau cyllidebol eithafol, gydag ambell ddarpariaeth gwasanaeth wedi'u colli ac eraill ar fin cael eu colli, a chan bod adolygiad gwariant hefyd ar y gweill, nid oes gan wasanaethau cyhoeddus ddim dealltwriaeth bellach o oblygiadau'r adolygiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi ar 19 Tachwedd 2019, gyda'i Chyllideb Derfynol yn cael ei rhoi ym mis Chwefror, ond hyd yma does dim rhybudd o hyd pryd fydd y Gyllideb Llywodraeth Leol wirioneddol ar gael. Bydd goblygiadau deddfwriaethol ysgubol i BOB awdurdod lleol yn sgîl hyn, pan fydd yn rhaid iddynt gymeradwyo cyllidebau yn seiliedig ar ffigurau setliad drafft i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion statudol ynghylch gosod Biliau'r Dreth Gyngor.

 

Mae'r amserlen arfaethedig yn rhoi anawsterau real iawn i gynghorau, oherwydd bydd angen newid pob cyfarfod craffu, cyfarfodydd Cabinet dilynol a chyfarfodydd y Cyngor. Canlyniad hyn yw y gallai cyfraddau'r dreth gyngor fod wedi'u chwyddo, ac y darganfyddir yn ddiweddarach y byddai ffigurau'r setliadau wedi caniatáu rhagor o hyblygrwydd.

Cynghorau lleol yw'r prif gyflogwyr yn eu hardaloedd yn aml, a bydd unrhyw ostyngiad i'w cyllid yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy, ac aros yn fewnol.

Rhagor o fanylion

Rydym yn llwyr gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau sydd â chysylltiadau da, sy'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn ei dro yn sicrhau diogelwch a lles ein preswylwyr ledled Cymru, a bydd canlyniadau gwell i bawb.

 

Daw'r cynlluniau gwariant cyfredol i ben ym mis Mawrth 2020, ond mae'r holl arwyddion presennol yn dweud wrthym na fydd yr amserlen ar gyfer ffigurau'r setliad yn rhoi unrhyw gronfeydd cymeradwy inni tan fis Mawrth 2020. Mae hyn yn warthus: ni all unrhyw gyflogwr gynnal menter gwerth miliynau o bunnoedd heb gyllideb.

Mae nifer y cynghorau sydd bellach mewn sefyllfa i osod cyllideb anghyfreithlon yn frawychus, a gwaethygir hyn gan gynigion grant heb eu hamseru, a rhai o'r rhain nad oeddent mewn llaw tan ddiwedd y flwyddyn gyllidebu.

Mae grantiau Cyllid Ewropeaidd a grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n aruthrol at y gwasanaethau a ddarperir. Yn ogystal, mae angen i ni ystyried llinellau amser wrth ddyfarnu grantiau yr ymddengys eu bod yn cael eu rhoi ar ôl i'r flwyddyn ariannol ddechrau. Nid yw hyn yn gefnogol i waith cynllunio'r gweithlu nac i ddarparu gwasanaethau.

Mae angen diwygio sylweddol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor gwasanaethau lleol, ac i ddod â'r anghydraddoldebau systemig rhwng cyllido darpariaethau cyhoeddus i ben. Mae angen rhagor o ymreolaeth a rheolaeth ar awdurdodau lleol dros gynhyrchu refeniw, gyda mecanweithiau wedi'u sefydlu ar gyfer awdurdodau lleol. Mae Cyrff Gwarchod o ran Archwilio Cyhoeddus wedi bod yn tynnu sylw at y difrod sylweddol sy'n cael eu gwneud i wasanaethau hanfodol, a heb fuddsoddiad mawr yn y gwasanaethau hyn, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, fel yr ifanc, neu bobl oedrannus iawn, ar adeg pan mae galw cynyddol am ddarparu gwasanaethau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

191 llofnod

Dangos ar fap

5,000