Deiseb a gwblhawyd Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu uwchraddio Gorsaf Reilffordd Trefforest i alluogi myfyrwyr anabl i gael mynediad i Brifysgol De Cymru mewn modd cynaliadwy a chydag urddas.

Gorsaf reilffordd Trefforest yw'r prif fynediad o ran trafnidiaeth gyhoeddus i Brifysgol De Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo buddsoddi mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru fel rhan o raglen wella 15 mlynedd ond, i lawer o bobl ifanc anabl sy'n dymuno cael mynediad i addysg brifysgol yn annibynnol, bydd y gwelliannau hyn yn rhy hwyr.

Mae'r trefniadau presennol yn yr orsaf yn golygu bod yn rhaid i bobl anabl alw am help ac yna aros i staff yr orsaf fwy na lai eu cario ar draws y bont droed. Mae hyn yn amhriodol ac yn is na'r safonau mynediad y dylem eu disgwyl ar gyfer pobl anabl yn yr 21ain ganrif. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwelliannau i orsaf Trefforest, yn benodol i ddarparu mynediad addas i bobl anabl.

Rhagor o fanylion

​Dechreuodd y prif ddeisebydd y ddeiseb hon ar ôl bod yn dyst i'r darpariaethau mynediad i'r anabl cyfredol ar waith yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Methodd y ddarpariaeth yr hyn y byddai am ei weld ar gyfer ei ffrindiau a'i theulu ag anableddau, yn enwedig y rhai na fyddai'r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol ar eu cyfer.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol i alluogi pobl anabl i gael mynediad at addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill. O ystyried y cyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru am welliannau a gynlluniwyd, mae'n ymddangos yn gwbl resymol i'r orsaf allweddol hon fod yn flaenoriaeth, cyn derbyn y garfan nesaf o fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu haddysg brifysgol ym mis Medi 2020.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

232 llofnod

Dangos ar fap

5,000