Deiseb a gwblhawyd Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru

Dyma ofyn i chi lofnodi fy neiseb yn galw am i goed Yw hynafol gael eu diogelu yn ôl y gyfraith.

Ar hyn o bryd nid yw'r coed prydferth hyn yn cael eu diogelu'n gyfreithiol. Mae'n hollbwysig i ni ddiogelu'r rhan hanfodol hon o'n treftadaeth â mesurau diogelu cyfreithiol penodol cyn i ni golli rhagor o goed. Mae'r coed Yw hyn wedi tyfu ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd. Maen nhw'n henebion byw ac yn dystion hynafol i hanes ein cyndeidiau a'n gwareiddiad. Rhaid i ni eu diogelu ar fyrder cyn i ragor gael eu colli.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

77 llofnod

Dangos ar fap

5,000