Deiseb a gwblhawyd Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

​Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i orfodi gwaharddiad ar barcio ar balmentydd.

Rwy'n ymgyrchu i ddod â pharcio ar balmentydd i ben. Mae'n fater cynyddol sy'n effeithio ar fy hun a chymaint o rai eraill yng Nghymru bob dydd gan beryglu eu diogelwch. Mae'n fater enfawr i'r rheini ag anabledd a'r rhai â chadeiriau gwthio. Mae hyn yn arbennig o anodd pan fydd cerbydau'n parcio ar y cwrb isel neu'r palmant botymog.

Ar sawl achlysur mae'r cerbyd sydd wedi'i barcio ar y palmant yn achosi i'r olygfa o'r ffordd ddod yn gyfyngedig. Mae hyn yn achosi i'r sefyllfa ddod yn beryglus i unrhyw un sy'n gorfod mynd ar y ffordd i basio'r cerbyd. Mae risg llawer uwch i'r rheini sydd â nam ar eu golwg neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn symud i'r peryglon anhysbys.

Dylai fod gan bawb yr hawl i annibyniaeth. Fodd bynnag, pan fydd cerbydau'n parcio ar y palmant, mae hyn yn cyfyngu'r rhai na allant yrru ac sy'n dibynnu ar y palmant i deithio o amgylch eu cymuned. Gall hyn hefyd arwain at unigedd a phryder.

Dylid ymdrin â hyn nawr fel bod gan genedlaethau'r dyfodol yr un siawns o annibyniaeth a diogelwch i bawb yn ein cymunedau.

Rhagor o fanylion

​Mae gen i a fy mab nam ar ein golwg. Mae'r mater hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn inni gael mynediad i'n cymuned yn ddiogel. Rydw i wedi siarad â llawer o bobl sydd hefyd yn ei chael hi'n anodd.

Fe wnes i a fy mab greu ymgyrch o'r enw Addewid Palmant (Pavement Promise). Rydyn ni am i bawb addo peidio â pharcio ar y palmant.

Rwy'n teimlo y dylid cael tîm penodol i weithio ar y mater hwn. Efallai ffordd ryngweithiol/ar-lein i bobl gyflwyno gwybodaeth.

Rydw i am i fy mab gael cymaint o annibyniaeth ag y gall yn ei ddyfodol mewn modd diogel. Helpwch fi i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

801 llofnod

Dangos ar fap

5,000