Deiseb a gwblhawyd Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!

Nid yw'r canllawiau statudol drafft ar gyfer addysg yn y cartref yn addas at y diben. Bydd yn parhau â'r elyniaeth rhwng awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref, a hynny oherwydd yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen a'r nodau y mae am i awdurdodau lleol eu cyflawni.

Nid oes cefnogaeth ddilys yn cael ei darparu ar gyfer addysgwyr yn y cartref. Nid yw addysgwyr yn y cartref yn cael eu hamddiffyn, eu parchu na'u gwerthfawrogi. Nid yw'r ddogfen hon yn eu cydnabod nac yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd ddilys nac effeithiol.

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ymchwilio i'r rôl a'r pwysau y mae Swyddfa'r Comisiynydd Plant wedi'u rhoi ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg yn y cartref, ac i ba raddau y mae hyn wedi llywio'r canllawiau o'i gymharu â mewnbwn rhanddeiliaid yn y gymuned addysg yn y cartref.

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i lefel ymgysylltiad y Comisiynydd Plant â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, ac o ystyried faint o waith ymgysylltu y mae hi wedi'i wneud, pam nad yw hi wedi gwrando ar eu barn am addysg yn y cartref a'i bod yn parhau â'i hymgyrch yn erbyn addysgwyr yn y cartref.

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad oes mesurau yn y canllawiau hyn sy'n amddiffyn addysgwyr yn y cartref ac yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif yn eu hymddygiad mewn perthynas ag addysgwyr yn y cartref.

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad yw'r canllawiau'n sôn am gyfeirio at elusennau addysg yn y cartref Cymru, nac yn argymell y dylid cyfeirio atynt, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dyma'r cyrff gorau ar gyfer rhoi cymorth ac eiriolaeth i addysgwyr yn y cartref yng Nghymru.

Rydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pa adborth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan randdeiliaid sylfaenol ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cynrychioli eu safbwyntiau a'u hanghenion yn deg i'r un graddau ag amcanion y Comisiynydd Plant a'r awdurdodau lleol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

512 llofnod

Dangos ar fap

5,000